NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

17.03.23

Canlyniadau cymwsyterau galwedigaethol haf 2023

Mae Ofqual, sy'n rheoleiddio cymwysterau, arholiadau ac asesiadau yn Lloegr, wedi cynnal adolygiad o'r canlyniadau hwyr ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol OCR a Pearson yn haf 2022. Fel rhan o'r adolygiad, mae Ofqual hefyd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i atal oedi o'r fath rhag digwydd eto.

Mae tri dyddiad cau newydd wedi'u cyflwyno i sicrhau bod cyrff dyfarnu'n cyhoeddi canlyniadau cymwysterau galwedigaethol lefel 3 cyflawn a chywir yr haf hwn. Mae Ofqual wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn ymlaen o'r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Bydd y dyddiadau cau yn berthnasol i gymwysterau galwedigaethol a gymerir gan ddysgwyr yng Nghymru a ddefnyddir ochr yn ochr â neu yn lle Safon Uwch, ar gyfer symud ymlaen i addysg bellach neu uwch. 

Y tri dyddiad yw: 

  • Dydd Gwener 26 Mai 2023 – y dyddiad olaf y bydd cyrff dyfarnu ac ysgolion a cholegau yn cytuno pa dysgwyr y disgwylir iddynt gael canlyniad erbyn 17 Awst 2023
  • Dydd Gwener 23 Mehefin 2023 – y dyddiad olaf y bydd cyrff dyfarnu ac ysgolion a cholegau yn cytuno ar y wybodaeth neu'r dystiolaeth sy'n weddill sydd ei hangen er mwyn i bob dysgwr gael canlyniad
  • Dydd Llun 14 Awst 2023 – y dyddiad olaf y dylai cyrff dyfarnu gyhoeddi canlyniadau i ysgolion a cholegau (ac eithrio cymwysterau galwedigaethol CBAC ac AQA a fydd yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â chanlyniadau cymwysterau cyffredinol ar 16 Awst 2023)

Mae’r ddau ddyddiad cau cyntaf hyn wedi'u cynllunio i ddod â'r broses gwirio cymhwysedd ar gyfer cyrff dyfarnu, ysgolion a cholegau ymlaen yn ystod y tymor, fel bod dysgwyr yn cael eu canlyniadau ar amser. Nid ydynt yn disodli prosesau presennol cyrff dyfarnu megis marcio, safoni a dilysu.